Dull

 

Gofal yw sylfaen llwyddiant y practis. Mae hyn yr un mor berthnasol o ran lles y staff ag y mae i gyflawni’r holl wasanaethau o ddechrau’r prosiect hyd at ei derfynu.

 

Ystyrir pob comisiwn a dderbynnir gan y practis fel cyfle i wella’r amgylchedd adeiledig ac maent yn gofyn am yr un graddau o ofal a medr boed nhw’n brosiectau bach a chymharol syml neu’n fawr a chymhleth.

 

Ein dull gweithredu o ran pob prosiect, waeth be fo’r raddfa, yw cael dealltwriaeth glir o amcanion a gweledigaeth ein cleientiaid. Rydym yn buddsoddi amser ac ynni yn cydweithio yn y swyddfa a gyda’n cleientiaid i ganfod cyfleoedd ac archwilio’r ystod o ddewisiadau er mwyn dilyn y datrysiad gorau.