Alwyn Jones

 

Mae Alwyn wedi bod yn ymwneud â chadwraeth adeiladau yn broffesiynol ers dros 25 mlynedd. Astudiodd yn Ysgol Bensaernïaeth Cymru o 1971 i 1977 a dechreuodd ei yrfa fel pensaer yn arbenigo mewn cadwraeth pan fu’n gyfrifol am atgyweirio ac adfer maenordy oes Elisabeth rhestredig Gradd I ar ddechrau’r 1980au. Ysbrydolwyd ef gan y prosiect hwn i ddatblygu ei ddealltwriaeth o hen adeiladau ac erbyn 1988 fe’i penodwyd yn Bensaer Cadwraeth i bractis pensaernïol yng Nghaerdydd cyn sefydlu cwmni Penseiri Alwyn Jones ym 1992.

 

Er gweithio gyda hen adeiladau am dri degawd bron mae ei frwdfrydedd dros ddeall adeiladau, cydnabod eu harwyddocâd arbennig a datblygu ateb ar gyfer y defnydd gorau yn dal yr un fath. Mae’n anelu at safonau uchel yn yr holl waith y mae’n ei wneud, yn cynnwys y gwaith a wneir gan ei bractis.