Practis

 

Sefydlwyd cwmni Penseiri Alwyn Jones ym 1992 ac mae gan y practis brofiad helaeth mewn atgyweirio, adnewyddu a chadwraeth adeiladau hanesyddol. O’r dechrau mae’r practis wedi ymwneud â phrosiectau yn amrywio o waith ar adeiladau o bwys cenedlaethol i ddylunio estyniadau domestig pwrpasol o ansawdd uchel iawn.

 

Oherwydd natur fanwl y comisiynau yr ymwneir â nhw, mae’n bolisi gan y practis i gyflogi penseiri cymwysedig i fod yn gyfrifol am bob agwedd ar bob prosiect o’r cychwyn hyd at eu cwblhau. Drwy weithio’n agos gyda Alwyn Jones mae’r dull hwn yn golygu bod gan y pensaer prosiect barhad gwybodaeth gaffaeledig, perchnogaeth o’u prosiectau a balchder ynddynt ac mae hynny’n sicrhau cynnyrch terfynol o ansawdd uchel.