Gwasanaethau

 

Mae’r practis yn cynnig amrywiaeth llawn o wasanaethau pensaernïol yn ogystal â chyngor cadwraeth arbenigol i gleientiaid ac ymgynghorwyr eraill yn y maes, yn cynnwys:

  • Cyngor ar gadwraeth, atgyweirio ac addasu adeiladau hanesyddol
  • Dylunio adeiladau newydd mewn amgylchoedd sensitif
  • Arolygon manwl o gyflwr ac arfarniadau
  • Ymchwil a dadansoddiad hanesyddol
  • Astudiaethau dichonoldeb
  • Cyngor ar gael cymorth grant
  • Cynlluniau rheoli cadwraeth
  • Mesur adeiladau
  • Cydgysylltu ag ymgynghorwyr arbenigol eraill

 

Gyda thîm llawn ysgogiad o bedwar pensaer, gyda chymorth technegydd pensaernïol a gweinyddwr practis, mae cwmni Penseiri Alwyn Jones wedi cael enw da fel un o’r practisiau penseiri cadwraethol pennaf yng Nghymru.