Cadwraeth
Mae cwmni Penseiri Alwyn Jones wedi ennill enw da fel un o brif bractisiau Cymru ym maes cadwraeth, gan wneud gwaith o’r ansawdd uchaf mewn atgyweirio ac adfer adeiladau hanesyddol i gleientiaid nodedig amrywiol. Mae arbenigedd y practis yn y gwaith cadwraeth puraf, yn ogystal â dylunio adeiladau newydd yn eu cyd-destun hanesyddol, wedi arwain at bortffolio amrywiol.
Mae gwasanaethau’r practis wedi bod yn hanfodol mewn cael arian ar gyfer prosiectau gan nifer o gyrff cymorth grant amrywiol megis Cronfa Treftadaeth y Loteri a Cadw.