Tŵr Paxton
Gellir gweld un o olygfeydd mwyaf trawiadol Sir Gaerfyrddin o Dŵr Paxton, ffoli neo-Gothig yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif. Ar ôl iddo gael ei daro gan fellten yn y 1970au gosodwyd to concrid gwastad yn lle’r to tŵr canolog ac ailadeiladwyd y bylchfuriau yn amrwd. Erbyn diwedd y 1990au roedd y to concrid wedi dirywio ac roedd dŵr yn mynd i mewn. Cynhaliwyd gwaith helaeth i adfer y tŵr canolog a thri thyred gan ddefnyddio deunyddiau a thechnegau adeiladu traddodiadol