Llanerchaeron

 

Mae Llanerchaeron yn enghraifft dda o ystâd wledig Gymreig o ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Dyluniwyd ac adeiladwyd y fila yng nghanol yr ystâd gan John Nash (oddeutu 1794) a dyma’r enghraifft fwyaf cyflawn o’i waith cynnar sy’n bodoli.

 

Roedd y fila a chwrt y gweision wedi cael eu hesgeuluso am y rhan fwyaf o ail hanner yr ugeinfed ganrif ac roedd angen cryn dipyn o waith cadwraeth ac adnewyddu oedd yn gofyn am sgiliau manwl i arbed yr adeilad rhag dirywio ymhellach. Cafodd addasiadau ansensitif oedd wedi cyfaddawdu dyluniad Nash eu hunioni ac adferwyd y tŷ i’w ogoniant gwreiddiol. Mae’r tŷ ar agor i’r cyhoedd.

 

Mae’r fila, adain y gweision a’r cwrt gwasanaeth yn rhestredig Gradd I ac mae’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.