Adfywio

 

Mae gan y practis brofiad helaeth mewn adfywio adeiladau anghyfannedd a diangen er budd cymunedol neu fasnachol. Datblygir pob prosiect mewn perthynas â gweledigaeth o’r cynllun arbennig, sydd hefyd yn rhoi sail i waith pawb arall sydd ynghlwm mewn gwireddu’r cynllun. Mae’r practis yn brofiadol hefyd mewn ymdrin â chyrff ariannu amrywiol a gall gynghori ar benodi ymgynghorwyr ac isgontractwyr arbenigol.