Neuadd Craflwyn

 

Neuadd Craflwyn yw calon Ystâd Craflwyn sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cael ei redeg ganddynt fel eiddo i’w rentu neu ei logi yn nhroedfryniau Eryri.

 

Annedd syml oedd yr adeilad yn wreiddiol, wedyn fe’i defnyddiwyd fel llety hela Fictorianaidd ac yna fel tŷ. Cafodd ei esgeuluso’n fawr cyn cael ei adnewyddu, ei ymestyn a’i ail addasu i’r hyn a welir heddiw. Roedd y gwaith yn gymysgedd o gadwraeth, adnewyddu ac adfywio.