Y Memo, Trecelyn

 

Gwaith adnewyddu, addasu ac ehangu sefydliad gweithwyr rhestredig Gradd II a neuadd goffa restredig Gradd II*. Caiff yr institiwt ei addasu i’w ddefnyddio fel Canolfan Adnoddau Gwybodaeth yr awdurdod lleol, tra bydd y neuadd yn dal i gael ei defnyddio fel ystafell ddawnsio gydag awditoriwm uwchben. Bydd estyniad cyswllt newydd yn rhoi lle i’r cyfleusterau modern sydd eu hangen i ganiatáu ailddefnyddio’r adeiladau presennol ac fe’i dyluniwyd i wrthgyferbynnu â gwaith maen trwm yr adeiladau sydd yno eisoes. Bydd yr adeiladu hyn hefyd yn cael gwasanaethau newydd llawn a phan fydd yn bosib cânt eu huwchraddio i ddefnyddio ynni’n fwy effeithiol.