Tŷ Clytha

 

Mae Tŷ Clytha yn adeilad rhestredig Gradd I. Mae’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a dywedir ei fod yn un o dai neo-glasurol gorau Cymru. Fe’i dyluniwyd gan Edward Haycock o’r Amwythig a disodlodd dŷ Georgaidd arall ar y safle.

 

Roedd y gwaith yn cynnwys atgyweiriadau helaeth i’r simneiau oedd yn dangos olion dirywiad ac oedd angen gwaith atgyweirio mawr i ddiogelu’r ffabrig. Roedd y gwaith hefyd yn cynnwys uwchraddio nifer o wasanaethau yn yr adeilad, oedd yn golygu cynllunio a gweithredu gofalus i osgoi unrhyw effaith niweidiol ar y tu mewn rhagorol.

Roedd y gwaith atgyweirio ac adnewyddu a wnaed yn Clytha yn dilyn egwyddorion traddodiadol, a’r athroniaeth oedd ymyrryd cyn lleied a cholli cyn lleied â phosibl o’r ffabrig gwreiddiol.