Tŵr Crwn Cymin

 

Adeilad Georgaidd crwn yw tŵr crwn Cymin wedi ei godi ar safle amlwg yn edrych dros ddyffryn Gwy a Threfynwy ym 1794 gan fonedd lleol i’w ddefnyddio ganddynt fel clwb cinio bychan, gyda golygfeydd rhyfeddol.

 

Defnyddid yr adeilad, (sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol) fel tŷ am beth amser cyn yr adnewyddu helaeth. Roedd y gwaith yn golygu adnewyddu’r adeilad yn llwyr y tu mewn a’r tu allan ac mae bellach ar agor i’r cyhoedd.

 

Ger y tŵr crwn y mae’r Deml Lyngesol a adeiladwyd drwy danysgrifiadau cyhoeddus ym 1800 i ddathlu buddugoliaethau morwrol pwysig yn ystod diwedd y 18fed ganrif. Ar hyn o bryd mae’r practis yn cynnal prosiect i ddatrys problemau hindreulio y mae’r adeilad hwn yn eu hwynebu.