Gareth Dauncey

 

Ymunodd Gareth ag Alwyn Jones ym 1999 ar ôl gweithio i bractisiau masnachol mawr yn Llundain a Chaerdydd. Astudiodd yn y Brifysgol yn Greenwich a Phrifysgol Caerfaddon o 1991 i 1997 a chymhwysodd o Brifysgol Caerdydd ym 1999. Mae Gareth wedi cael profiad helaeth o weithio ar ailddefnydd addasol adeiladau hanesyddol ac mae’n gyfrifol am lawer o waith preswyl y practis yn ogystal â bod yn bensaer prosiect ar gyfer Castell Hensol a’r Memo, Trecelyn. Aeth Gareth i ymarfer ar ei ben ei hun yn 2008 ond mae’n dal i wneud gwaith ar ran Alwyn Jones yn rheolaidd.