Eurig Williams

 

Ymunodd Eurig â’r practis ym 1994 ac mae ganddo brofiad helaeth mewn cadwraeth, amgueddfeydd ac orielau a sectorau addysg. Ef yw uwch bensaer prosiect y practis ac mae wedi gweithio’n helaeth ar y rhan fwyaf o gomisiynau mawr y practis yn cynnwys Llanerchaeron, Tŷ Clytha, yr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a nifer o brosiectau ysgolion. Astudiodd yn Ysgol Bensaernïaeth Cymru a graddiodd ym 1993, ac mae ganddo radd meistr hefyd mewn Dylunio Amgylcheddol Adeiladau.