Yr Amgueddfa Genedlaethol Cam 1
Mae’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd yn un o adeiladau neo-glasurol gorau Cymru yng nghanol y ganolfan ddinesig hardd, ac mae’n rhestredig Gradd I. Fe’i hagorwyd yn swyddogol ym 1927, ac fe’i hail-luniwyd yn sylweddol dros y blynyddoedd dilynol.
Roedd sawl rhan o’r gwaith adeiladu cynnar yn dod i ddiwedd eu hoes ac felly roedd angen gwaith ail-lunio ac adnewyddu mawr ar y to. Manteisiwyd ar y cyfle hefyd i adnewyddu ac ailaddurno tu mewn orielau’r adain Ddwyreiniol uchaf i roi lle addas i un o gasgliadau celf gain gorau Ewrop. Gosodwyd ffabrig addurniadol ar y waliau i roi cefnlen addas i’r arddangosion.