Ysgol Yr Eglwys yng Nghymru yr Henadur Davies

 

Ysgol gynradd fawr ddinesig yw ysgol yr Henadur Davies yn Ardal Gadwraethol canol tref Castell-nedd.

 

Estynnwyd ac ail-luniwyd yr adeilad ysgol Fictorianaidd gwreiddiol yn sylweddol i wella presenoldeb yr ysgol yng nghanol y dref a darparu cyfleusterau dysgu modern newydd tra’n cadw cymeriad yr adeilad oedd yno eisoes. Roedd estyniad yn darparu meithrinfa newydd a ddyluniwyd fel bod modd ei gwahaniaethu oddi wrth yr ysgol wreiddiol ac eto’n aros yn sympathetig iddi. Cysylltwyd Neuadd yr Eglwys gyfagos â’r hen ysgol hefyd ac fe’i hailwampiwyd i ddarparu Neuadd Ysgol newydd.