Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Llansannor

 

Ysgol wledig yw Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llansannor yn nhirwedd fryniog Bro Morgannwg. Disodlwyd adeiladau dros dro blaenorol yr ysgol gan ysgol newydd fodern o amgylch yr ysgol Fictorianaidd wreiddiol a gadwyd.

 

Mae cynllun a manylion mewnol yr ysgol yn anelu at fod yn addas at ddefnydd y disgyblion, gyda chyfuniadau ffenestriad isel a diddorol i ddod â golau ac awyr iach i ganol yr ystafelloedd dosbarth tra bod y tu allan yn gorwedd yn isel yn y tirlun gyda tho copr crwm i adlewyrchu’r bryniau gwyrdd o amgylch.