Capel Bethlehem

 

Mae Capel Bethlehem yn gapel Annibynwyr Cymreig gweithredol a godwyd ym 1872 oedd angen ail-doi ac uwchraddio allanol.

 

Yn ogystal â chael y caniatâd amrywiol perthnasol, paratoi’r dogfennau angenrheidiol a goruchwylio’r gwaith, roedd y practis yn ganolog i gael grantiau o ddwy ffynhonnell i helpu’r capel i gwblhau’r gwaith.