Eglwys Sant Cadog, Llancarfan

 

Mae Eglwys Sant Cadog, Llancarfan yn rhestredig Gradd I fel enghraifft gain iawn o eglwys y plwyf canoloesol gyda nifer o nodweddion wedi goroesi o’r cyfnod.

 

Yn ystod atgyweirio gadwraethol diweddar, gwelodd Pensaer y prosiect olion paentiad mur canoloesol rhagorol nad oedd yn hysbys cynt. Er mai dim ond darnau bychain ellir eu gweld, ymddengys mai’r prif bwnc yw ‘Sant Siôr a’r Ddraig’ - y paentiad mwyaf yng Nghymru ar y pwnc hwn, ac o bosib gyda’r mwyaf ym Mhrydain a’r un sydd wedi goroesi orau.

 

Bu’r practis yn ymwneud hefyd â deall arwyddocâd naw ‘canopi’ pren canoloesol y tu ôl i’r allor uchel. Mae’r canopïau hyn, sydd wedi’u cerfio’n gain, o ddiddordeb mawr oherwydd eu safon uchel a’u manylion unigryw.