Eglwys Ystradowen
Eglwys y plwyf o ganol y 19eg Ganrif yw eglwys Sant Owain, a ddyluniwyd gan y pensaer John Prichard fu’n gweithio yn Llundain ac yn ardal esgobaeth Llandaf. Comisiynwyd y practis i ddylunio festri newydd i wella ac ategu’r cyfleusterau presennol.
Lluniwyd y festri fel lle hyblyg, fowt faril a gysylltir â’r eglwys bresennol drwy estyniad to gwastad ac yno hefyd mae ystafell y boeler a mynedfa’r festri. Fe’i dyluniwyd fel estyniad naturiol i’r eglwys bresennol ac mae’r festri’n efelychu mesuriadau a manylion yr adeilad cyfagos.