Caer Wigau
Gwaith addasu ac ymestyn ysgubor anghyfannedd o fewn talar ffermdy rhestredig Gradd II i ddarparu annedd dwy ystafell wely. Dylanwadwyd yn uniongyrchol ar yr addasiad gan yr adeilad gwreiddiol a lleolwyd yr ystafelloedd gofynnol mewn cysylltiad â’r agoriadau a’r nodweddion oedd yno eisoes. Ac eithrio’r ystafelloedd gwely (sydd ar ddau lawr) mae pob ystafell arall yn agored dan do newydd. Er bod yr addasiad yn rhoi tu mewn hollol fodern, cedwir cymeriad y tu allan gwreiddiol gyda gwyrdroi cynnil drwy gyflwyno gwydro plaen, drysau astellog a simnai ddur.