Church Road

 

Ad-drefnu ac ymestyn llawr gwaelod tŷ un talcen y 1920au mewn Ardal Gadwraeth yng Nghaerdydd i roi gofod mewnol gwell sy’n cysylltu’n agosach â’r ardd. Mae’r estyniad ar ffurf blwch brics syml sy’n cysylltu â chilfach bren wedi’i gwydro’n llawn. Mae’r gilfach yn cysylltu’r tu mewn â’r ardd ac yn diwallu’r gofyniad i ddarparu man eistedd mewnol sydd ar yr un pryd ‘yn yr ardd’. Er bod cynllun mewnol y tŷ presennol yn sail iddo, mae manylion tu allan yr estyniad yn gwahaniaethu’n gynnil rhwng y gwaith newydd a’r tŷ gwreiddiol.