Ysgubor Llanfihangel

 

Addasu ysgubor ŷd sylweddol rhestredig Gradd II o’r 16eg ganrif (gyda bloc stabl gysylltiedig o’r 17eg ganrif) ac ailgodi adeiladau allan cyfagos i greu annedd mawr wedi ei drefnu o amgylch cwrt oedd yno eisoes. Cedwir gofod agored yr ysgubor fel man byw tra bod tri llawr y bloc stabl yn cynnwys ystafelloedd gwely ac ystafelloedd ymolchi'r teulu. Mae’r beudy a ailadeiladwyd yn cynnwys cegin cynllun agored, lle bwyta a byw ac mae trydydd adeilad yn darparu ystafell gemau a garej. Ac eithrio’r golygon blaen i’r gegin a’r bloc garej, roedd y strategaeth ar gyfer y gweithiau hyn yn golygu y gallai’r adeiladau aros yn gyson â’r ffurf wreiddiol ac eto gwmpasu rhaglen tŷ mawr, modern.