Slade
Ad-drefnu ac ymestyn tŷ gwledig Fictorianaidd rhestredig Gradd II i ddarparu cegin a lle gwasanaeth ynghyd â gwell mynediad i islawr sydd yno eisoes. Mae’r gegin a ad-drefnwyd yn rhoi lle mawr di-dor sy’n agor i’r gerddi a choedlan gyfagos drwy ychwanegu cilfach eistedd garreg wedi’i gwydro’n llawn. Mae’r gegin hefyd yn rhoi mynediad i’r ystafelloedd aml-bwrpas a’r ystafell esgidiau, yn ogystal â grisiau’r islawr newydd sydd mewn estyniad a adeiladwyd yn bwrpasol. Ac eithrio dodrefn y gegin a’r ystafell amlbwrpas, gweir y gwaith newydd fel parhad o’r ffabrig presennol ac mae’r rhan fwyaf o’r manylion yn seiliedig ar y patrymau gwreiddiol a welir yn y tŷ presennol.